Lleolir Gwasanaeth Cofrestru Caerdydd yn Neuadd y Ddinas ym Mharc Cathays, Caerdydd. Beth bynnag sydd gennych mewn golwg ar gyfer eich diwrnod arbennig, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i fodloni eich dymuniadau.
Neuadd y Ddinas yw canolbwynt un o’r canolfannau dinesig gorau’r DU yng nghanol ardal ag adeiladau, gerddi a rhodfeydd eang, mawreddog. Agorodd Neuadd y Ddinas ym 1906, blwyddyn ar ôl i Gaerdydd ennill ei statws fel dinas. Mae ei gwedd allanol wedi’i cherfio o faen Portland yn arddull y Dadeni.
Gerddi Alexandra
Prif fynedfa Neuadd y Ddinas
Ystafell Dewi Sant
Ystafelloedd seremonïau
Rydym yn cynnig dewis o ystafelloedd seremonïau er mwyn dathlu priodasau a phartneriaethau sifil, seremonïau enwi ac adnewyddu addunedau.
Am seremoni syml â 2 westai’n dystion i gyfnewid addunedau cyfreithiol a modrwyon, gallwch ddewis y Swyddfa Gofrestru yn Neuadd y Ddinas.
Mae’r Swyddfa Gofrestru ar gael rhwng 10am a 10.30am ar ddydd Llun i ddydd Iau ac yn costio £57 (gan gynnwys tystysgrif).
Rydym hefyd yn cynnig dwy ystafell seremonïau hefyd ar flaen Neuadd y Ddinas sy’n edrych dros y lawntiau.
Mae dydd Gwener a dydd Sadwrn yn boblogaidd iawn ar gyfer seremonïau. Archebwch ddigon ymlaen llaw i sicrhau’r dyddiad a’r amser o’ch dewis drwy gysylltu â’r tîm seremonïau ar 029 2087 1684 neu e-bostio seremoniau@caerdydd.gov.uk
Rydym wedi symud
Swyddfa Gofrestru
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Caerdydd
CF11 8AW
029 2087 1680