Mae partneriaeth sifil yn bartneriaeth a gydnabyddir yn gyfreithiol fel dewis amgen i briodas.
I drefnu’ch seremoni partneriaeth sifil neu apwyntiad hysbysu ffoniwch 029 2087 1680.
Ffurfio Partneriaeth Sifil
Yn wahanol i briodas nid oes geiriau rhagnodedig i’w dweud, yn hytrach caiff partneriaeth ei ffurfio gan y ddau ohonoch yn darllen datganiad cyfreithiol a llofnodi’r atodlen partneriaeth sifil ym mhresenoldeb Cofrestrydd a dau dyst.
Ar gyfer Partneriaeth Sifil, rhaid i’r cwpl:
- bod yn 18 oed neu’n hŷn
- peidio â bod yn perthyn i’w gilydd
- peidio â bod mewn priodas neu bartneriaeth sifil sy’n bodoli eisoes.
I drefnu Partneriaeth Sifil yng Nghaerdydd:
- mae angen ichi gyflwyno hysbysiad o’ch bwriad i gofrestru yn y Swyddfa Gofrestru
- bydd angen ichi gadw slot amser ar gyfer eich seremoni. Gall hyn fod hyd at ddwy flynedd ymlaen llaw
- mae angen ichi dalu’r ffi statudol am gyflwyno hysbysiad o fwriad
29 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad gallwch gofrestru’ch partneriaeth trwy lofnodi dogfen partneriaeth sifil gerbron y cofrestrydd a’ch dau dyst.
Mae hefyd un ffi am ffurfio’r bartneriaeth sifil.
Cewch wybod am gynllunio’ch seremoni.
Mae croeso i chi ddathlu unrhyw ffordd a fynnwch, o lofnodi’r atodlen â Chofrestrydd a dau dyst i seremoni lawn â ffrindiau a theulu. Nid oes angen ichi gael seremoni i ffurfio partneriaeth sifil. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwcio Swit Llandaf neu un o’n lleoliadau cymeradwy, rydym yn cynnig dewisiadau o seremoni i helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.
Trosi partneriaeth sifil yn briodas
Os oes gennych diddordeb i drosi partneriaeth sifil yn briodas cysylltwch a ni 029 20871 680 neu seremoniau@caerdydd.gov.uk