Cofrestru Marwolaeth
Yn dilyn gweithredu’r gwasanaeth Arholwr Meddygol statudol ar 9 Medi 2024, rhaid cyfeirio pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr, lle nad yw’r crwner yn ymwneud â hi, at y gwasanaeth Arholwyr Meddygol ar gyfer craffu annibynnol cyn cofrestru. Bydd yr Arholwr Meddygol yn cysylltu â’r perthynas agosaf dynodedig i drafod achos y farwolaeth ac unrhyw bryderon a allai fod ganddo cyn anfon y gwaith papur i’r swyddfa gofrestru berthnasol i ganiatáu i’r farwolaeth gael ei chofrestru.
Ar ôl derbyn y gwaith papur gan yr Arholwr Meddygol/Crwner byddwn wedyn yn ffonio’r berthynas agosaf i gynnig apwyntiad i gofrestru, dylid cofrestru marwolaethau o fewn 5 niwrnod ar ôl i ni dderbyn y gwaith papur angenrheidiol.
Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 2 ddiwrnod i’r Arholwr Meddygol ddweud ei fod wedi anfon y gwaith papur atom anfonwch e-bost atom gydag enw’r ymadawedig, dyddiad a lleoliad y farwolaeth ynghyd â’ch enw, eich perthynas â nhw a rhif ffôn cyswllt fel y gallwn edrych i mewn i hyn i chi.
Yn anffodus, daeth y ddeddfwriaeth frys yn ein galluogi i gofrestru dros y ffôn i ben ar 24 Mawrth 2022; felly os nad ydych yn gallu teithio i Gaerdydd i gofrestru, gallwch wneud apwyntiad yn eich swyddfa gofrestru leol a chwblhau datganiad, lle byddwch yn rhoi’r holl wybodaeth i’r cofrestrydd yn y rhanbarth hwnnw, a bydd wedyn yn anfon hyn ymlaen atom ni yng Nghaerdydd er mwyn cwblhau’r cofrestriad.
Os gwneir datganiad, bydd angen archebu unrhyw dystysgrifau sydd eu hangen arnoch yn uniongyrchol gennym ni a bydd y rhain yn cael eu postio atoch unwaith i’r cofrestriad gael ei gwblhau.
I gofrestru marwolaeth, bydd angen i chi gwblhau’r camau canlynol.
Cofrestru’r farwolaeth yn y rhanbarth lle digwyddodd y farwolaeth
I gofrestru marwolaeth mae’n rhaid i chi fod:
- perthynas neu bartner yr ymadawedig
- cynrychiolydd personol yr ymadawedig
- yn uwch weinyddwr yn y lleoliad lle digwyddodd y farwolaeth, neu
- y person sy’n rhoi cyfarwyddyd i’r trefnydd angladdau.
Apwyntiadau
Mae apwyntiad yn para tua 30 – 45 munud.
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch yn eich apwyntiad:
- dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- enw llawn yr ymadawedig ac unrhyw enwau blaenorol cyfreithiol oedd ganddynt yn cynnwys enw cyn priodi os yw’n briodol
- dyddiad a lleoliad genedigaeth yr ymadawedig
- galwedigaeth yr ymadawedig ac enwau llawn a galwedigaeth y priod/partner sifil
- cyfeiriad arferol yr ymadawedig
- os oedd yr ymadawedig yn briod, dyddiad geni’r priod
- a oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn o gyllid cyhoeddus
Cywiro neu newid cofnod sydd wedi’i gwblhau
Nodwch y codir ffi ar geisiadau i gywiro cofnod ar ôl iddo gael ei gwblhau ac ar ôl i chi lofnodi’r ddogfen.
Bydd angen talu £83.00 i ystyried y cais yn eich swyddfa gofrestru leol, neu fel arall, os bydd yn rhaid gwneud cais am gywiro cofnod i’r Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol, yna bydd ffi o £99.00 yn daladwy.
Nid yw talu’r ffi hwn yn sicrhau y bydd y cywiriad yn cael ei ganiatáu ac ni fydd y ffioedd a dalwyd yn cael eu had-dalu os caiff y cais ei wrthod.
Dweud Wrthym Unwaith
Rydym hefyd yn cynnig y gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith. Os hoffech ddefnyddio hwn yn ystod eich apwyntiad gofynnwn yn garedig i chi ddod â’r canlynol lle y bo’n briodol;
- Rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig ac ar gyfer unrhyw briod/partner sifil sydd yn dal yn fyw
- Pasbort Prydeinig yr ymadawedig (Dilys neu wedi dod i ben)
- Trwydded Yrru yr ymadawedig
- Bathodyn Glas yr ymadawedig
Cyfranogiad y Crwner – Os ydych wedi derbyn tystysgrif dros dro, ni fyddwn yn gallu cofrestru’r farwolaeth cyn i’r crwner ddod â’u hymchwiliadau i ben, ond os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith anfonwch e-bost atom yn cynnwys ffotograff/sgan o’r dystysgrif dros dro a gallwn greu cyfeirnod unigryw er mwyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth.
Trefnu’r angladd
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i drefnu angladd yng Nghaerdydd ar wefan Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd.