Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Datganiad Preifatrwydd Gwasanaeth Cofrestru Caerdydd

Mae Gwasanaeth Cofrestru Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu.    Prosesir yr holl ddata personol yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018. 

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y bydd Gwasanaeth Cofrestru Caerdydd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion cofrestru genedigaethau, marwolaethau a hysbysiadau o briodas neu apwyntiadau partneriaeth sifil, a hefyd at ddibenion trefnu a rheoli seremoni eich priodas neu bartneriaeth sifil,  neu eich dinasyddiaeth. 

Mae gwybodaeth bersonol i gofrestru digwyddiad yn ofynnol gan y gyfraith.  Y prif ddeddfau sy’n ymwneud â chasglu gwybodaeth gofrestru yw Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, Deddf Priodi 1949, Deddf Partneriaethau Sifil 2004, Deddf Mewnfudo 2014, Rheoliadau Cofrestru Priodasau 2015, Rheoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau Rhyw Cymysg) 2019, a Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Efallai y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch gan y deddfau hyn, a darnau eraill o ddeddfwriaeth, i roi gwybodaeth benodol.  Os na fyddwch chi’n darparu gwybodaeth pan fo gofyn, mae’n bosibl y byddwch chi’n agored i ddirwy (ymhlith pethau eraill), neu efallai na fyddwn ni’n gallu prosesu eich cais, er enghraifft am briodas neu bartneriaeth sifil.

Mae’n bosibl hefyd y caiff gwybodaeth bersonol ei chasglu gennych chi os byddwch chi’n gwneud cais i’r swyddfa hon, er enghraifft, i drefnu apwyntiad neu seremoni, i gael tystysgrif, neu i gywiro gwybodaeth mewn cofnod mewn cofrestr.  

Caiff gwybodaeth gennych chi ei chadw a’i phrosesu gan swyddogion cofrestru’r ardal hon. 

Y Cofrestrydd Arolygol yw rheolwr data cofrestriadau genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a gellir cysylltu â nhw yn y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Ddinas, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3ND a cofrestryddion@caerdydd.gov.uk 

Yr awdurdod lleol yw rheolwr data cofrestriadau partneriaethau sifil a’r cyfeiriad e-bost yw cofrestryddion@caerdydd.gov.uk 

Mae Cofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr yn rheolwr data ar y cyd ar gyfer cofrestriadau genedigaethau, priodasau, marwolaethau a phartneriaethau sifil. Y cyfeiriad yw Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH.

Darperir copi o unrhyw gofnod mewn cofrestr gan y swyddfa hon yn unol â’r gyfraith i unrhyw ymgeisydd, cyhyd â’i fod yn rhoi digon o wybodaeth i adnabod y cofnod dan sylw ac yn talu’r ffi briodol. Dim ond copi papur ardystiedig (“tystysgrif”) y mae modd eu rhoi. Mae hefyd yn bosibl gwneud cais am dystysgrif i Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol.

Mae mynegeion o ddigwyddiadau cofrestru’r swyddfa hon ar gael i’r cyhoedd er mwyn helpu aelodau o’r cyhoedd i ddod o hyd i’r cofnod cofrestru sydd ei angen arnyn nhw. Mae mynegeion papur ar gael yn y Swyddfa’r Gofrestru. 

Bydd copi o’r wybodaeth a gasglwyd gan swyddog cofrestru hefyd yn mynd at Gofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr er mwyn cadw cofnod canolog o bob cofrestriad. 

Gellir rhannu gwybodaeth cofrestru’r swyddfa hon gydag adrannau a sefydliadau eraill wrth ymgymryd â’n swyddogaethau, neu er mwyn galluogi eraill i berfformio eu rhai nhw.  Mae hynny’n cynnwys adroddiad wythnosol o enedigaethau i’r Awdurdod Addysg Lleol; ac o farwolaethau i’r Awdurdod Iechyd, Etholiadau, y Dreth Gyngor, a Diogelu (marwolaethau dan 18 oed). Rhennir manylion cofrestru genedigaethau hefyd gyda Chanolfannau Plant gyda’ch caniatâd, a rhennir cofrestriadau marwolaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhan o’r polisi Dywedwch Wrthym Unwaith.

Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth pan fydd sail gyfreithlon dros wneud hynny am y rhesymau canlynol: 

  1. Dibenion ystadegol neu ymchwil.
  2. Dibenion gweinyddol gan gyrff swyddogol, e.e sicrhau bod eu cofnodion yn gyfredol er mwyn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd. 
  3. Dibenion atal neu ganfod twyll, mewnfudo, a phasbortau.

Ni fyddwn ni’n rhannu dim byd â thrydydd partïon at ddibenion marchnata.

Beth yw eich hawliau Diogelu Data? 

Mae gennych chi hawliau amrywiol o ran y data sydd gennym amdanoch chi. 

Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data.  Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol: 

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o unrhyw ran o’ch data personol. 

Yr hawl i gywiro – mae gennych chi hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae hefyd gennych chi hawl i ofyn bod y wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi yn cael ei chwblhau.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthod prosesu – Mae gennych hawl i wrthod prosesu eich data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Swyddfa Gofrestru Caerdydd drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu – gwneud cwyn am unrhyw agwedd ar ein defnydd o’ch data.

Os gwnewch chi gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. 

Serch hynny, gan ein bod ni’n prosesu eich data yn unol â gofyniad cyfreithiol neu fel tasg cyhoeddus, mae ond gennych chi’r hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi, i gael gwybod am gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol, i ofyn bod gwybodaeth anghywir yn cael ei chywiro (pan fydd y gyfraith yn caniatáu a chan dalu ffi) neu i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth personol.   O dan rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol.  Ni fydd eich gwybodaeth yn destun penderfyniadau awtomataidd ac nid yw’n gludadwy. 

Cedwir gwybodaeth am gyfnod amhendant fel y gofynnir gan y gyfraith.  Mae cofnodion personol eraill yn cael eu dileu yn unol â’n hamserlen gadw. 

Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr.  Pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefannau, mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.

Pa fathau o gwcis rydym yn eu defnyddio?

Mae nifer o wahanol fathau o gwcis, fodd bynnag, mae ein gwefan yn defnyddio cwcis ymarferoldeb fel ein bod yn eich adnabod ar ein gwefan ac yn cofio eich dewisiadau.  Gallai’r rhain gynnwys eich dewis iaith a’ch lleoliad.  Defnyddir cymysgedd o gwcis parti cyntaf a thrydydd parti. 

Sut i reoli cwcis

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae’r gwefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr.  Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio o ganlyniad i hynny.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Swyddog Cofrestru Caerdydd yn cynnwys dolenni at wefannau eraill.   Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch chi’n clicio ar ddolen i wefan arall, dylech chi ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Mae Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.  Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 22 Mawrth 2023. 

Sut i gysylltu â ni  

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:    

Swyddog Diogelu Data  

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth  

Neuadd y Sir  

Glanfa’r Iwerydd   

Caerdydd  

CF10 4UW    

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol  

Os hoffech chi gwyno neu os teimlwch chi nad aed i’r afael yn briodol â’ch cwyn, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2025 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd