Gallwch wneud cais am gopïau o dystysgrifau genedigaethau, priodasau a marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghaerdydd ers 1837 (dechrau’r cofnodion swyddogol).
Mae cofnodion Partneriaethau Sifil ar gael ar gyfer 2005 ymlaen.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch ar gyfer pob math o gais:
- math o dystysgrif rydych ei heisiau: genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil neu farwolaeth
- enw neu enwau’r sawl mae’r dystysgrif yn berthnasol iddo / iddynt
- dyddiad y digwyddiad
- lleoliad y digwyddiad
- enwau’r rhieni (os ydych yn gwneud cais am dystysgrif geni)
- unrhyw wybodaeth berthnasol arall a all ein helpu i ddod o hyd i’r cofnod
Gallwch wneud cais trwy’r post, dros y ffôn neu ar-lein. Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynghylch tystysgrifau, anfonwch neges e-bost at ymholiadau.tystysgrif@caerdydd.gov.uk
Gwneud cais
Dylech argraffu a llenwi’r ffurflen briodol:
Cais am dystysgrif geni (41.7kb PDF)
Cais am dystysgrif marwolaeth (39.7kb PDF)
Cais am dystysgrif priodas (31.9kb PDF)
Cais am dystysgrif partneriaeth sifil (180kb PDF)
Cost tystysgrif yw £12.50 a bydd angen ichi gynnwys archeb bost yn daladwy i Gyngor Caerdydd gyda’ch cais.
Anfonwch y cais at:
Swyddfa Gofrestru
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Caerdydd
CF11 8AW
Byddwn yn dyroddi’r dystysgrif cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Nodwch nad ydym yn derbyn taliadau arian parod.