Llongyfarchiadau ar eich dyweddïad!
Mae cymaint i feddwl amdano wrth gynllunio’ch diwrnod mawr. Gadewch inni eich helpu i’w wneud mor ddi-straen ag sy’n bosibl.
Bydd ein canllaw cam wrth gam yn helpu i sicrhau bod popeth mewn trefn gennych chi.
Ble a phryd
Y peth cyntaf i’w wneud yw penderfynu ble a phryd yr hoffech gynnal eich seremoni. Gellir cynnal seremonïau mewn lleoliadau cymeradwy ar y rhan fwyaf o ddyddiau’r flwyddyn ac ar unrhyw adeg gyda chytundeb y lleoliad a’r gwasanaeth cofrestru.
Swyddfa gofrestru, Archifau Morgannwg
Ystafelloedd Llandaf, Cwrt Insole
Trefnu’ch Cofrestryddion
Yn gyntaf mae’n rhaid ichi drefnu’ch dewis leoliad ac wedyn cadarnhau gyda Swyddfa Gofrestru Caerdydd y bydd swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod a’r amser hwnnw. Byddwn yn darparu dau Gofrestrydd ichi; bydd un yn cynnal y seremoni ac yn eich arwain drwyddi a bydd y llall yn sicrhau bod yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni ac yn cofrestru’ch seremoni.
Os yw’ch seremoni’n cael ei chynnal yn y Swyddfa Gofrestru yna byddwch yn trefnu’ch Cofrestryddion a’r lleoliad ar yr un pryd.
Os yw’ch seremoni’n cael ei chynnal yn rhywle arall bydd angen ichi drefnu ei logi gyda’r lleoliad yn uniongyrchol, ac yna cysylltu â ni i drefnu’ch Cofrestryddion. Rhaid talu blaendal o £100 na ellir ei ad-dalu ar adeg trefnu’r dyddiad a’r amser ar gyfer Swit Llandaff a lleoliadau trwyddedig.
Hysbysiad Priodas neu Bartneriaeth Sifil.
Mae cyflwyno hysbysiad yn ofyniad cyfreithiol mae’n rhaid ei gyflawni cyn eich seremoni priodas neu bartneriaeth sifil.
Mae hyn yn apwyntiad y bydd angen i’r ddau ohonoch fynd iddo.
Bydd angen ichi ddarparu rhai dogfennau penodol i brofi’r canlynol:
- eich enw,
- eich oedran,
- eich cenedligrwydd,
- eich cyfeiriad, ac
- eich bod yn rhydd i briodi neu gofrestru partneriaeth sifil.
Caiff ffi statudol y pen ei chodi am apwyntiadau hysbysu. Mae’n rhaid talu hon ar adeg trefnu’ch apwyntiad. Os yw’r naill berson neu’r llall sydd eisiau priodi yn wladolyn gwladwriaeth nad yw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, mae’n bosibl y bydd y ffi hon yn uwch gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Rhaid ichi gyflwyno hysbysiad o leiaf 29 diwrnod cyn dyddiad eich seremoni.
Argymhellwn ichi gyflwyno hysbysiad priodas o leiaf 6 mis cyn eich seremoni. Bydd eich hysbysiad yn ddilys am gyfnod o 12 mis, sy’n golygu bod yn rhaid cynnal eich seremoni cyn pen 12 mis ar ôl cyflwyno’ch hysbysiad.
Os bydd eich hysbysiad yn dod i ben neu os newidiwch leoliad eich seremoni, bydd angen ichi gyflwyno hysbysiad eto.
Rhaid cyflwyno hysbysiadau yn eich swyddfa gofrestru leol (hyd yn oed os nad hon yw’r ardal lle cynhelir eich seremoni). Rhaid ichi fod wedi byw yn yr ardal lle byddwch yn cyflwyno hysbysiad am o leiaf 9 diwrnod cyn cyflwyno’ch hysbysiad.
Os ydych chi a/neu’ch partner yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr, bydd angen ichi sefydlu preswyliaeth yng Nghymru a Lloegr ac ni allwch gyflwyno hysbysiad mewn Swyddfa Gofrestru ond os ydych wedi byw yn yr ardal gofrestru berthnasol am o leiaf 7 diwrnod llawn (mae hyn yn gweithio allan fel cyfwerth â 9 diwrnod gan nad yw’r diwrnod yr ydych yn cyrraedd a’r diwrnod y cyflwynwch yr hysbysiad yn cyfrif).
Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd eich hysbysiad yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn y Swyddfa Gofrestru am gyfnod statudol o 28 diwrnod (neu 70 diwrnod). Os na ddaw unrhyw wrthwynebiadau cyfreithiol i law, caiff yr awdurdodiad ei ddyroddi ar y 29ain diwrnod, gan ganiatáu cynnal eich priodas neu bartneriaeth sifil.
Dogfennau
- Pasbort dilys cyfredol
Os nad oes gennych basbort dilys dylech gysylltu â’n tîm seremonïau ar 029 2087 1680 neu e-bost seremoniau@caerdydd.gov.uk a fydd yn eich cynghori ynghylch pa ddogfennau y bydd arnoch eu hangen.
- Y bil treth gyngor mwyaf diweddar
- Bil cyfleustod (dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf)
- Cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu (dyddiedig o fewn y mis diwethaf)
- Trwydded yrru ddilys gyfredol
- Archddyfarniad Absoliwt gwreiddiol â stamp y llys wedi’i ddyroddi gan y Llys Sirol neu Adran Deulu’r Uchel Lys.
- Os oedd eich ysgariad neu ddiddymiad o’r tu allan i Gymru a Lloegr, bydd angen ichi ddarparu dogfen wreiddiol y llys gyda chyfieithiad Saesneg (os oes angen). Nodwch bydd ffi ychwanegol.
Os ydych chi’n defnyddio enw gwahanol i’r un ar yr ysgariad neu ddiddymiad, yna mae’n rhaid ichi ddarparu dogfennau i gysylltu’ch holl enwau.
Tystysgrif marwolaeth wreiddiol eich diweddar briod neu bartner sifil, a’r dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil os nad ydych wedi’ch enwi ar y dystysgrif marwolaeth.
Y weithred newid enw wreiddiol neu ddogfen gyfatebol.
Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn wladolyn gwladwriaeth nad yw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, dylech ffonio 029 2087 1680 neu anfon neges e-bost at seremoniau@caerdydd.gov.uk i gael cyngor ar y dogfennau mae angen ichi eu darparu.
Rhaid i’r holl ddogfennau fod yn ddogfennau ffisegol gwreiddiol. Nid yw llungopïau’n dderbyniol. Rhaid i unrhyw ddogfennau sydd wedi’u dyroddi gan lys fod â stamp y llys arnynt.
Gall cyflwyno hysbysiad fod yn gymhleth. Os na allwch ddarparu unrhyw un/rai o’r dogfennau uchod, bydd y tîm seremonïau’n esbonio pa ddogfennau eraill a allai fod yn dderbyniol. Dylech ein ffonio ar 029 2087 1680 neu anfon neges e-bost at seremoniau@caerdydd.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Y cyffyrddiad personol
Ar ôl ichi gyflwyno hysbysiad, byddwn yn rhoi ichi lyfryn seremonïau, sef eich arweiniad er mwyn cynllunio’ch seremoni a’i gwneud yn bersonol i chi.
Cyffyrddiadau personol fydd yn gwneud eich diwrnod yn un i’w gofio. Mae’n bosibl y byddwch eisiau cynnwys darlleniadau, cerddoriaeth neu hyd yn oed ysgrifennu llwon personol eich hun.
Nodwch: nid oes modd ysgrifennu’ch llwon eich hun ar gyfer seremoni yn Ystafell Dewi Sant.
Eich diwrnod chi yw hwn ac rydym yn fwy na hapus i drafod unrhyw drefniadau arbennig sydd gennych a byddwn yn gwneud popeth a allwn i wneud eich seremoni’n bersonol ac yn gofiadwy.