Rydym yn falch o gynnig Seremonïau Enwi mewn partneriaeth â Civil Ceremonies Ltd.
Mae Seremoni Enwi yn rhoi cyfle i chi ddathlu genedigaeth plentyn neu groesawu plentyn mabwysiedig neu lysblant i’ch teulu.
Er bod seremonïau bedyddio traddodiadol yn dal i fod yn boblogaidd, mae cynnydd yn y galw am seremoni amgen nad yw’n grefyddol. Does dim rhaid i rieni fod yn briod a gallant fod o unrhyw gefndir diwylliannol, â chredoau crefyddol neu ysbrydol ai peidio.
Mae hyd y seremoni’n dibynnu ar y math o wasanaeth a’r gwahanol ddewisiadau rydych yn eu dewis. Rydym yn argymell eich bod yn neilltuo 30 munud ar gyfer eich digwyddiad arbennig.
Mae pob seremoni’n unigryw ac yn dibynnu ar y dewisiadau fyddwch yn eu gwneud o’r opsiynau sydd ar gael. Mae hyn yn golygu y gallwch deilwra seremoni sy’n arbennig i chi a’ch teulu y byddwch yn ei chofio a’i thrysori wrth i’ch plant dyfu.
Mae seremonïau enwi yn rhoi’r cyfle i chi:
- ddathlu rhoi enw i’r plentyn neu’r plant
- mynegi ymrwymiad i’r plentyn. Mae rhiant/rhieni yn ymrwymo i ofalu a charu am ei blentyn / eu plentyn o flaen teulu a ffrindiau
- croesawu’r plentyn i’r teulu a’r gymuned. Mae perthnasau a gwesteion yn cyfarfod ac yn croesawu aelod newydd y teulu
- penodi mentoriaid neu oedolion cefnogol – yn debyg i enwebu rhieni bedydd. Gall teulu a ffrindiau addo i helpu a chefnogi’r plentyn wrth iddo dyfu o fewn ei gymuned
- rhoi cyfle i fam-guod a thad-cuod wneud addewidion i gefnogi’r rheini wrth fagu eu hŵyr neu wyres newydd.
Am bob ymholiad ynglŷn â seremonïau enwi neu i drefnu cyfarfod cyn y seremoni, anfonwch e-bost atom yn seremoniau@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 029 2087 1680.
Amser parti!